SL(5)119 – Rheoliadau Ad-dalu Benthyciadau i Fyfyrwyr a Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig (Diwygio) 2017

Cefndir a Phwrpas

Mae'r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (SI 2009/470) ('Rheoliadau 2009') ac maent yn ymwneud â swyddogaethau y gellir eu harfer yng Nghymru yn rhannol gan Weinidogion Cymru ac yn rhannol gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae Rheoliadau 2009 yn darparu ar gyfer ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r diwygiadau i Reoliadau 2009 yn ymdrin ag ystod o faterion penodol (y mae rhai ohonynt yn dechnegol), fel y nodir ym mharagraff 4 o'r Memorandwm Esboniadol, ond maent yn ymwneud yn bennaf ag ad-dalu benthyciadau at raddau Meistr ôl-raddedig gan fenthycwyr yng Nghymru.   Y prif ddarpariaethau ar gyfer benthycwyr yng Nghymru sy'n defnyddio benthyciad at radd Feistr ôl-raddedig yw:

·         y bydd ad-daliadau'n dechrau ar £21,000 a byddant yn dibynnu ar incwm;

·         codir llog o +3 y cant RPI (mynegai prisiau manwerthu);

·         telir ad-daliadau ar gyfradd o 6 y cant o gyflog y benthyciwr sy'n uwch na'r trothwy o fis Ebrill 2019;

·         telir ad-daliadau ar y cyd ag unrhyw ad-daliadau ar gyfer dyledion israddedig;

·         caiff unrhyw ddyledion sy'n weddill eu dileu ddeng mlynedd ar hugain i'r dyddiad y bydd llog yn dechrau cael ei gronni.

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

-     nid yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg (21.2(ix)).

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi ym mharagraff 2: “This composite statutory instrument is subject to the negative resolution procedure in the National Assembly for Wales and in the UK Parliament. Given the composite nature of the 2009 Regulations and that no routine Parliamentary processes exist by which to lay bilingual regulations before Parliament, these Regulations will be made in English only.”

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y Goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Cyfeirir isod at y sefyllfa benodol o ran ad-dalu benthyciadau at raddau Meistr ôl-raddedig gan fenthycwyr/myfyrwyr cymwys yng Nghymru.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 (SI 2017/523) (“Rheoliadau 2017”) sy'n darparu ar gyfer rhoi benthyciadau i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar gyfer cyrsiau gradd Feistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2017.

Er mwyn gwneud cais am fenthyciad at radd Feistr ôl-raddedig, mae'n rhaid i fyfyrwyr fod yn fyfyrwyr cymwys.  Mae Rheoliadau 2017 yn rhestru'r holl gategorïau o fyfyrwyr cymwys. Mae un o'r categorïau hyn yn cynnwys “gwladolion yr UE”. Nid yw'n glir pa gymorth ariannol fydd ar gael i fyfyrwyr sy'n wladolion yr UE ar ôl i'r DU adael yr UE.

Ymateb y Llywodraeth

Nid yw'n ofynnol i'r Llywodraeth ymateb i'r pwynt technegol a godir yn yr adroddiad hwn.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

16 Awst 2017